Main content

Cymru

Negeseuon

  • Swyddi newydd BBC Cymru Fyw

    Huw Meredydd Roberts

    Rheolwr, Gwasanaethau Ar-lein Cymraeg BBC Cymru

    Fyddech chi'n hoffi'r cyfle i weithio i wasanaeth arlein BBC Cymru Fyw, neu'n nabod rhywun fyddai â diddordeb?

    Mae tair swydd wahanol yn cael eu hysbysebu. Cliciwch ar y dolenni isod am fanylion...

    >> Cynhyrchydd Cynnwys (Cyfryngau Cymdeithasol)

    >> Cynhyrchydd Cynnwys (BBC Cymru Fyw)

    >> Newyddiadurwr/wraig (Cyfryngau Cymdeithasol)

    Plîs nodwch y dyddiad cau - sef hanner nos, nos Lun 12/02/18.

    BBC Cymru Fyw yw prif wasanaeth ar-lein Cymraeg y BBC, sy’n adlewyrchu’r diweddaraf am Gymru, a hynny yn Gymraeg. Mae Cymru Fyw ar gael ar wefan bbc.co.uk/cymrufyw, a hefyd ar ap, ac mae gennym gyfrifon Facebook a Twitter

    Pob lwc!

  • Newidiadau i Cymru Fyw

    Huw Meredydd Roberts

    Rheolwr, Gwasanaethau Ar-lein Cymraeg BBC Cymru

    Pan lansiwyd Cymru Fyw dros dair blynedd nôl yn haf 2014, y bwriad oedd creu gwasanaeth ar-lein uchelgeisiol a pherthnasol yn y Gymraeg. Roedden ni’n gobeithio y byddai Cymru Fyw yn ateb y galw am wasanaeth ar-lein gan BBC Cymru fyddai’n adlewyrchu'r hyn sy’n digwydd yng Nghymru heddiw, yn cael ei ddiweddaru’n gyson ac yn unigryw i’r Gymraeg.

    Mewn tair blynedd, mae nifer ein defnyddwyr unigryw – sef y nifer o ddefnyddwyr gwahanol sy’n defnyddio’r gwasanaeth – wedi codi o 10,000 i dros 40,000 bob wythnos. Mae lefelau gwerthfawrogiad ein defnyddwyr o’r gwasanaeth wedi codi. Mae Cymru Fyw ar gael, nid yn unig ar y wefan bbc.co.uk/cymrufyw, ond hefyd ar ffurf ap (ap Cymraeg cyntaf y BBC) a thrwy ap BBC News, ac mae gennym gyfrifon Facebook a Twitter. Mae’r gwasanaeth wedi tyfu ac esblygu yn aruthrol yn y blynyddoedd cyntaf.

    Mae’r tirlun digidol wedi newid yn sylweddol mewn tair blynedd, ac yn parhau i wneud, ac mae’n bwysig bod Cymru Fyw yn ddigon hyblyg ac ystwyth i ymateb i hyn. Wrth adolygu ac ystyried ble ddylai Cymru Fyw fynd nesaf, ac er mwyn ymateb i’r gofynion gwahanol sy’n codi, rydym wedi penderfynu newid ychydig ar ein pwyslais golygyddol.

    Un o nodweddion Cymru Fyw oedd y…

    Darllen mwy

  • BBC Cymru Fyw - gwasanaeth sy'n diweddaru'n amlach

    Ruth Thomas

    Arweinydd Tîm Newyddion BBC Cymru Fyw

    Tagiwyd gyda:

    Dros yr wythnosau nesaf, fe welwch chi nifer o newidiadau i wefannau Cymraeg y BBC wrth i ni ffarwelio â Newyddion Ar-lein a chroesawu'r gwasanaeth newydd BBC Cymru Fyw.

    Fel mae Huw Meredydd Roberts wedi blogio, ac fel yr addawyd llynedd, bydd y gwasanaeth newydd yn cyfuno newyddion a nifer o elfennau eraill.

    Bydd yr elfennau newydd yn ymddangos yn raddol dros gyfnod o wythnosau, ac ar y dechrau, dim ond pobl sy'n dewis defnyddio fersiwn beta o wefan BBC Cymru Fyw fydd yn gweld y newidiadau.

    Yn y pen draw bydd y wefan yn un gyfangwbl ymatebol (responsive) - gyda dyluniad sy'n gweithio lawn cystal ta beth yw maint y sgrîn rydych chi'n ei defnyddio – ffôn, tabled, neu sgrin fwy.

    BBC Cymru Fyw

     

    Ond er mor lan y dyluniad newydd, mae'n siŵr taw ar gynnwys y wefan y cawn ni ein barnu, a bydd gweddill yr erthygl hon yn canolbwyntio ar un elfen ganolog o'r gwasanaeth newydd:

    Bydd llif byw o ddiweddariadau byrion yn cael ei gyhoeddi ar y wefan o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng wyth y bore a chwech yr hwyr, a thu…

    Darllen mwy

  • Croeso i BBC Cymru Fyw

    Huw Meredydd Roberts

    Rheolwr, Gwasanaethau Ar-lein Cymraeg BBC Cymru

    Tagiwyd gyda:

    Mae’n ddiwrnod pwysig i BBC Cymru. Heddiw, 22 Ebrill 2014, mi rydan ni’n cymryd cam pwysig ymlaen wrth sefydlu gwasanaeth ar-lein Cymraeg newydd.

    Mae’r misoedd diwethaf wedi bod yn rhai prysur i ni – nid yn unig yn cyhoeddi cynnwys ar wefannau’r BBC wrth gwrs – ond yn ymchwilio, yn dadansoddi, yn crafu pen ac, yn fwyaf pwysig, yn gwrando.

    O’r sylwadau a’r adborth rydan ni wedi eu derbyn, fe ddaeth yn glir bod ‘na alw am wasanaeth ar-lein gan BBC Cymru sydd yn unigryw i’r Gymraeg, yn adlewyrchu yr hyn sy’n digwydd yng Nghymru heddiw ac yn cael ei ddiweddaru’n gyson.

    Rwy’n falch i ddweud ein bod…

    Darllen mwy

  • BBC Cymru - Dathlu 50

    Dafydd Owen

    Dathliadau BBC Cymru yn 50

    Penblwydd Hapus BBC Cymru! Oes, mae 'na hanner canrif ers darllediad cynta’r gwasanaeth cenedlaethol newydd ar Chwefror 9fed 1964.

    Mae carreg filltir fel hon yn gyfle i edrych ar rai o’r newidiadau gwleidyddol, cymdeithasol a diwylliannol sydd wedi digwydd yma yng Nghymru dros yr hanner canrif ddiwethaf.

    Roedd sefydlu gwasanaeth darlledu cenedlaethol i Gymru yn ddatblygiad pwysig iawn hanner can…

    Darllen mwy

  • O Gaernarfon i Ddatganoli

    Dyfan Powel

    Myfyriwr Ymchwil

    Mae'r hanner canrif ddiwethaf ers sefydlu BBC Cymru wedi bod yn gyfnod o newid mawr yn wleidyddol a chymdeithasol.  Dyfan Powel, myfyriwr ymchwil yn adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, Prifysgol Aberystwyth sydd wedi bod yn bwrw golwg ar rai o'r datblygiadau mwyaf.      

    Arwisgo Siarl yn Dywysog Cymru



    Rhaid galluogi javascript i chwarae'r cynnwys

    Hanes arwisgiad Charles yn Dywysog Cymru ym 1969.

     



    Yn 1958 rhoddodd y Frenhines Elizabeth yr Ail y teitl Tywysog Cymru i’w mab Siarl, ond roedd yn…

    Darllen mwy

  • Hanner canrif o frethyn?

    Elin Mai

    Sylfaenydd Cwmni Styledoctors

    Elin Mai o gwmni Styledoctors yn Llundain sydd yn bwrw golwg ysgafn, bachog, dros wisgoedd rhai o'r pobl sydd wedi ymddangos ar rai o raglenni BBC Cymru/Wales dros y 50 mlynedd ddiwethaf.

    Oedd Magi Post bron efelychu Twiggy? Ai aelodau Cymdeithas yr Iaith oedd y protestwyr smarta yn y byd?

    Mae'r atebion i gyd yma! Darllenwch ymlaen.

    Pobol y Cwm 1975 

    Rhaid galluogi javascript i chwarae'r cynnwys

    Detholiad o bennod gynnar yn opera sebon BBC Cymru 'Pobol y Cwm'.

    Diwrnod priodas a phawb yn smart yn Nghwm…

    Darllen mwy

  • Cayo a Chofio Cwm Celyn

    Lyn Ebenezer

    Newyddiadurwr

    Ers sefydlu BBC Cymru yn 1964 mae'r gwasanaeth newyddion wedi hen ennill ei blwy.  Y newyddiadurwr Lyn Ebenezer sy'n rhannu ei brofiad personol am un o straeon mawr yr hanner can mlynedd diwethaf.

     

    Rhaid galluogi javascript i chwarae'r cynnwys

    Cafodd pentref Capel Celyn ei foddi yn 1965 er mwyn creu cronfa ddŵr newydd Tryweryn.

         

     

    Ychydig ddyddiau cyn agoriad swyddogol argae Tryweryn gwahoddwyd Cayo Evans a finne i sgwrsio ar raglen Heddiw, BBC Cymru. Cayo, wrth gwrs, oedd arweinydd Byddin Rhyddid Cymru a finne’n cael fy…

    Darllen mwy

  • Stormydd Hydref

    Elin Meredith

    Tagiwyd gyda:

    Gyda’r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio am stormydd mawr ddiwedd mis Hydref ai cyd-ddigwyddiad yw hi bod un o gorwyntoedd gwaethaf Prydain wedi digwydd yng Nghymru union 100 mlynedd yn ôl?

    Ar Hydref 27 1913, fe ‘sgubodd corwynt drwy ardal Cwm Taf yn ne Cymru gan achosi difrod enfawr a lladd tri o bobl.

    Mae’r lluniau yma yn dangos maint y difrod yn ardal Trefforest, Cilfynydd, Abercynon ac Edwardsville. Diolch i Archifau Morgannwg a gwefan Old Merthyr Tydfil am ganiatâd i’w dangos.

    Digwyddodd cwta bythefnos ar ôl y ffrwydriad enfawr yng nglofa Senghennydd ac felly roedd nifer o ffotograffwyr yn…

    Darllen mwy

  • LLAWN01 - Gŵyl gelfyddydol newydd Llandudno

    Sioned Clwyd

    Os ewch chi i Landudno y penwythnos yma (Medi 20-22) a gweld y lle yn edrych yn fwy Fictorianiadd na’r arfer, peidiwch a phoeni, dydych chi heb gamu nôl mewn amser, ond yn hytrach wedi dod o hyd i un o amryw ddigwyddiadau LLAWN01.

    Cerbyd ymdrochi

    Gŵyl gelfyddydol newydd rhad ac am ddim yw LLAWN01 (Llandudno Arts Weekend No.1) sydd wedi cael ei threfnu a’i llunio gan Marc Rees, capten y prosiect Adain Avion…

    Darllen mwy