Dros yr wythnosau nesaf, fe welwch chi nifer o newidiadau i wefannau Cymraeg y BBC wrth i ni ffarwelio â Newyddion Ar-lein a chroesawu'r gwasanaeth newydd BBC Cymru Fyw.
Fel mae Huw Meredydd Roberts wedi blogio, ac fel yr addawyd llynedd, bydd y gwasanaeth newydd yn cyfuno newyddion a nifer o elfennau eraill.
Bydd yr elfennau newydd yn ymddangos yn raddol dros gyfnod o wythnosau, ac ar y dechrau, dim ond pobl sy'n dewis defnyddio fersiwn beta o wefan BBC Cymru Fyw fydd yn gweld y newidiadau.
Yn y pen draw bydd y wefan yn un gyfangwbl ymatebol (responsive) - gyda dyluniad sy'n gweithio lawn cystal ta beth yw maint y sgrîn rydych chi'n ei defnyddio – ffôn, tabled, neu sgrin fwy.
Ond er mor lan y dyluniad newydd, mae'n siŵr taw ar gynnwys y wefan y cawn ni ein barnu, a bydd gweddill yr erthygl hon yn canolbwyntio ar un elfen ganolog o'r gwasanaeth newydd:
Bydd llif byw o ddiweddariadau byrion yn cael ei gyhoeddi ar y wefan o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng wyth y bore a chwech yr hwyr, a thu hwnt i'r oriau hynny ar achlysuron arbennig.
Ry'n ni wedi arbrofi gyda'r syniad a'r dechnoleg ers tipyn, er enghraifft yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Ond bydd cynnwys llif dyddiol BBC Cymru Fyw yn fwy amrywiol na llif y Brifwyl. Bydd yn cwmpasu newyddion, chwaraeon, tywydd, teithio, a dolenni i wefannau allanol, diweddariadau o fyd y celfyddydau, rhaglenni teledu a radio, a blas o'r drafodaeth Gymraeg a Chymreig ar y cyfryngau cymdeithasol, a gyda lwc, tipyn o hwyl nawr ac yn y man.
Bydd y postiau yn y llif yn gryno ac amserol, ac yn ein galluogi ni i ymateb yn gynt pan mae newyddion yn torri. Byddwn ni hefyd yn rhoi dolenni i ffynonellau newyddion eraill - bydd awduron y llif yn dewis a dethol y wybodaeth ddifyrraf a diweddaraf yn Gymraeg ac am Gymru.
Bydd llif Cymru Fyw hefyd yn rhannu trydariadau, a phostiau o Facebook a blogiau, a byddwn ni'n eich annog chi i gysylltu â ni, trwy ebost, Twitter a Facebook.
Mae'n bendant y bydd y llif byw yn esblygu dros yr wythnosau nesaf, felly dyma orffen gydag apel:
Helpwch ni i fowldio'r llif byw trwy roi gwybod beth yw'ch argraffiadau chi drwy e-bostio adborth.cymru@bbc.co.uk neu drydar @BBCCymru gan ddefnyddio #cymrufyw.
Byddwch yn amyneddgar gyda ni os nad yw popeth yn gweithio'n berffaith o'r cychwyn cyntaf.
Ac yn bwysicach na dim, ymunwch yn ysbryd y peth trwy gysylltu i ddweud wrthon ni am bethau sy'n digwydd yng Nghymru, a chynnwys newydd sy'n cael ei gyhoeddi ar y we. Gallwch e-bostio cymrufyw@bbc.co.uk