Mae'r hanner canrif ddiwethaf ers sefydlu BBC Cymru wedi bod yn gyfnod o newid mawr yn wleidyddol a chymdeithasol. Dyfan Powel, myfyriwr ymchwil yn adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, Prifysgol Aberystwyth sydd wedi bod yn bwrw golwg ar rai o'r datblygiadau mwyaf.
Arwisgo Siarl yn Dywysog Cymru
Rhaid galluogi javascript i chwarae'r cynnwys
Hanes arwisgiad Charles yn Dywysog Cymru ym 1969.
Yn 1958 rhoddodd y Frenhines Elizabeth yr Ail y teitl Tywysog Cymru i’w mab Siarl, ond roedd yn rhaid iddo aros tan fis Gorffennaf, 1969, cyn cael ei arwisgo’n ffurfiol.
Rhai diwrnodau cyn i Neil Armstrong lanio ar y lleuad, cynhaliwyd seremoni rwysgfawr yng Nghastell Caernarfon lle datganodd Siarl ei gariad a’i ymrwymiad at bobl, diwylliant ac iaith Cymru. Yna bu Cymry nodedig yn datgan eu teyrngarwch i’r Goron. Ond i rai, bu’r dewis o leoliad yn adleisio arwisgiad mab Concwerwr Cymru, Edward I, yn 1301.
Cynheuodd y dathlu dân gweriniaethol a chenedlaetholgar ymhlith rhai Cymry a fynegwyd yn lliwgar drwy brotest a chelfyddyd.
Plaid Cymru yn ennill yn 1974
Rhaid galluogi javascript i chwarae'r cynnwys
Gwynfor Evans yn cyrraedd Llundain ar ôl ennill is-etholiad Caerfyrddin ym 1966.
Gyda buddugoliaeth Gwynfor Evans yn is-etholiad Caerfyrddin yn 1966, cychwynnodd cyfnod newydd yng ngwleidyddiaeth Cymru.
Tyfodd Plaid Cymru’n fygythiad i Lafur, nid yn unig yng nghadarnleoedd y Gymraeg, ond yn y Cymoedd hefyd. Bron i’r cenedlaetholwyr gipio Caerffili, Gorllewin y Rhondda a Merthyr mewn is-etholiadau.
Erbyn ail etholiad 1974, roedd Dafydd Wigley yn AS Arfon, ac, yn fwy annisgwyl i’r ‘proffwydi’ gwleidyddol, Dafydd Elis Thomas ym Meirionnydd i ymuno a Gwynfor Evans Nghaerfyrddin.
Er mai dim ond tri aelod oedd ganddynt, manteisiodd y Blaid ar leiafrif seneddol y Blaid Lafur i orfodi materion Cymreig ar agenda San Steffan, gan gynnwys ymrwymiad i refferendwm ar ddatganoli yn 1979 ac iawndal i chwarelwyr a ddioddefai o glefyd y llwch.
Protestiadau yn erbyn arfau niwclear
Rhaid galluogi javascript i chwarae'r cynnwys
Protest yn erbyn arfau niwclear yn RAF Breudeth ym 1982, rhan o ymgyrch CND yn y 1980au.
Yn yr 1980au, fe gynyddodd yr UDA a’r Undeb Sofietaidd dymheredd y Rhyfel Oer gan fabwysiadu polisïau tramor mwy ymosodol o gymharu â’r 70au.
Lleolodd y Sofietiaid daflegrau niwclear yng ngwledydd y Bloc Dwyreiniol, gosododd yr UDA daflegrau yng Ngorllewin Ewrop, a datblygodd Prydain y taflegrau ‘Trident’ ar ei llongau tanfor fel rhan o ‘ras arfau’ beryglus.
Yn cydredeg â hyn, gwelwyd twf yn aelodaeth a gweithgaredd CND – mudiad heddwch yn galw am ddiarfogi niwclear. Bu protestiadau heddychlon anferthol gyda channoedd ar filoedd mewn ralïau yn Llundain, gwarchae gan fenywod ar wersyll Americanaidd Greenham Common a gorymdeithiau drwy Gymru.
Byddai’r protestwyr yn cerdded i orsafoedd milwrol a niwclear Prydeinig er mwyn lleisio barn yn erbyn lleoli arfau niwclear yno.
Refferendwm 1997
Rhaid galluogi javascript i chwarae'r cynnwys
Canlyniadau refferendwm datganoli 1997.
Bu eu methiant trwm yn refferendwm 1979 yn ergyd fawr i ddatganolwyr Cymru. Ond bu profiadau'r wythdegau a’r nawdegau o ddinistr economaidd, polisïau Thatcheraidd yn cael eu gweinyddu drwy’r Swyddfa Gymreig a sgandalau CWANGOs Torïaidd yn ddigon i berswadio llawer fod yna ddiffyg democratiaeth yng Nghymru. Yng ngeiriau Ron Davies, roedd pobl Cymru’n pleidleisio dros Lafur ond yn cael Thatcher.
Ateb Ron Davies a’r prif weinidog Llafur Tony Blair yn ’97 oedd cynnig datganoli eto, a chyfle i Gymry ddewis eu harweinwyr. Dim ond 50.1% o etholwyr Cymru fwriodd eu pleidlais yn y refferendwm, a 50.3% o’r rhain yn dweud ‘Ie.’
Serch y mwyafrif bach, cafwyd symudiad anferth ym marn y pleidleiswyr rhwng 1979 ac 1997.
Sefydlwyd Cynulliad Cenedlaethol, a bellach Senedd ddemocrataidd, yng Nghymru am y tro cyntaf ers dyddiau Owain Glyndŵr.