Close menu
  1. Try  
  2. Rate 8 ratings

How did you rate this?


Pilot ended 17th August 2018
0
Tried
8
Rated
0
Shared
Realiti Estynedig AR y Maes trailer
Realiti Estynedig AR y Maes
Archwiliwch Eisteddfod Genedlaethol 2018 ym Mae Caerdydd gydag ap Realiti Estynedig AR y Maes. (Nodwch os gwelwch yn dda: Mae’r peilot yma yn defnyddio GPS ac mae’n rhaid eich bod yn y lleoliad ym Mae Caerdydd rhwng y 3ydd a’r 11eg o Awst i’w ddefnyddio!)

Tu ôl i’r Llen

Fe ofynon ni i dîm AR y Maes am y peilot yma.

Beth yw e?

Mae’r ap cyffrous hwn yn ffordd newydd i Eisteddfodwyr gael persbectif newydd ar yr Ŵyl. Bwriad yr ap yw cyfoethogi profiad y rhai sydd yn mynd i Fae Caerdydd yn ystod yr Ŵyl ymhellach, a gwneud dysgu am yr Eisteddfod hyd yn oed yn fwy hygyrch. Gan ddefnyddio technoleg arbrofol, mae'n cynnig amrywiaeth o brofiadau difyr ac addysgiadol ar gyfer lleoliadau penodol o amgylch y Bae. Mae yna rywbeth ar gyfer pawb, gan gynnwys saith llwybr y gallwch eu lawrlwytho yn rhad ac am ddim, sef:

  • Yr Eisteddfod – Golwg newydd ar draddodiadau’r Ŵyl
  • Cerddoriaeth Canllaw i arwyr cerddorol yr Eisteddfod a Bae Caerdydd
  • Y Bae – Llwybr i ddarganfod hanes y Bae, o ddeinosoriaid i ddatganoli
  • Plant – Dewch o hyd i Cyw a’i ffrindiau o amgylch y Maes ar gyfer parti pen-blwydd
  • Tu ôl i’r llenni: Canolfan Mileniwm Cymru – Ffenest hud i fywyd tu fewn y ganolfan
  • Tu ôl i’r llenni: Stiwdios – Ffenest hud ar gynyrchiadau teledu
  • Comedi – Golwg amgen AR y Maes gydag Esyllt Ethni-Jones, Bry a Gareth! o wasanaeth S4C Hansh!

Beth ydych chi’n ceisio ei ddysgu?

Mae'r Ap yn cael ei gynnig fel ffordd o brofi sut y gellir cyflwyno cynnwys lleoliad-benodol trwy ddefnyddio technoleg Realiti Estynedig (AR). Cafodd ei greu mewn cydweithrediad rhwng y BBC, S4C ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru, gyda chyfraniadau gan amrywiaeth o bartneriaid (gweler yr wybodaeth yn yr Ap ar gyfer y cydnabyddiaethau). Bydd defnyddio'r Ap yn helpu'r BBC a'i bartneriaid i ddysgu am y modd y gallai'r dechnoleg hon gael ei defnyddio i gynnig mathau newydd o wasanaeth yn y dyfodol.

Er mwyn rhoi'r profiad gorau i chi, mae'r Ap hwn yn defnyddio eich lleoliad a'ch camera i ddarparu cynnwys mapio a realaeth estynedig. Gwnewch yn siŵr eich bod mewn amgylchedd diogel pan fyddwch yn defnyddio realaeth estynedig. Darllenwch ein Gwybodaeth Diogelwch yn

http://policy.pilots.bbcconnectedstudio.co.uk/eisteddfod-ar-cym/.html#safety

More new ideas for you on Taster

Realiti Estynedig AR y Maes