Mae Radio Cymru 2 yn cynnig Sioe Frecwast bob bore.
Os gwrandewch chi ar foreau Llun i Iau rhwng 7 - 10, fe gewch glywed Sioe Frecwast gyda Rhydian Bowen Phillips. Rhwng 10 - 2 Lisa Gwilym sydd wrth y llyw cyn ail-ymuno gyda Radio Cymru am 2 i glywed Ifan Jones Evans. Yna rhwng 5pm a 7pm mae cyfle i glywed dwy awr o restr chwarae ar Traciau Radio Cymru 2.
Lisa Angharad sy'n cyflwyno'r Sioe Frecwast ar fore Gwener, tra bo Dom James yn cyflwyno rhwng 11 - 2 (ar ôl ymuno gyda Trystan ac Emma). Yna ar ôl ymuno gyda Tudur Owen ar Radio Cymru rhwng 2 a 5, gallwch glywed awr o restr chwarae rhwng 5pm a 6pm gyda rhaglen Parti Nos Wener.
Daniel Glyn sydd i'w glywed ar fore Sadwrn o 7 - 9, a rhwng 2 a 5.30 mae 'na deir awr a hanner o gerddoriaeth ar raglenni Dewis, Parti'r Penwythnos a Nôl i'r 90au.
Ar ddydd Sul gallwch ymuno gyda Mirain Iwerydd o 7 tan 10. Ac yna 11 awr o gerddoriaeth di-dor tan 9pm gyda dilyniant o restrau chwarae.
Y bwriad o ail-ymuno gyda Radio Cymru yw sicrhau bod modd i'n cynulleidfa wrando'n ddi-dor ar raglenni Cymraeg drwy'r dydd.