CYFWELYDD: Felly Meera, beth wyt ti’n ei feddwl o Gethin?
MEERA: Dw i’n credu fy mod i’n ei ffansïo fe tamaid bach. Mae e’n lyfli.
GETHIN: Roeddwn i’n meddwl hwyrach bod Meera’n fy licio fi. Gwnes i ystyried a ddylwn i ddweud wrthi fy mod i’n hoyw, ond wedyn os dydy hi ddim yn fy ffansïo fi, dw i ddim eisiau swnio’n ‘arrogant’.
CYFWELYDD: Beth wyt ti’n ei feddwl o Meg?
GETHIN: Wel, roeddwn i’n gwybod ei bod hi wedi cael ei magu yn Reading cyn symud i Ruthun, felly gwnes i gymryd yn ganiataol mai Saesnes ydy hi. Wnes i ddim disgwyl buasai hi’n medru siarad Cymraeg a’i bod hi’n ystyried ei hun yn Gymraes.
MEG: Dydy’r ffaith fy mod i ond yn byw yn Rhuthun ers dw i’n wyth oed ddim yn golygu fy mod i ddim yn teimlo fel Cymraes. Mae teulu Mam wedi byw yma ers tair cenhedlaeth a rydyn ni wedi siarad Cymraeg adref ers erioed. Felly dw i’n ystyried fy hun yn Gymraes. Gwnes i drio sgwrsio ychydig efo Jac. Ond dw i’n meddwl ei fod o’n eithaf swil.
JAC: Pam ddylwn i ddweud wrth bobl fy mod i’n gofalu am Mam? Weithiau, dydy pobl ddim yn meddwl fy mod i’n gyfeillgar iawn oherwydd dw i ddim yn hango mas ar ôl yr ysgol. Ond dw i ddim moyn iddyn nhw wybod fy mod i’n gorfod mynd adref i edrych ar ôl Mam. Dw i’n hoffi Meera lot. Dw i’n ei ffeindio hi’n ddiddorol achos mae ei theulu hi’n dod o India.
MEERA: Mae pawb yn fy ngalw i’n Indiaidd a mae hynna’n fy ngwylltio i braidd achos dw i’n teimlo’n Gymreig. Dw i’n deall pam fod Jac yn dweud ’na, ond nid dyna pwy ydw i. Dw i’n credu bod Gethin gyda mwy o ddiddordeb mewn merched sy’n chwarae gemau cyfrifiadurol. Dw i’n becso ei fod e’n meddwl fy mod i’n ferch rhy galed.
CYFWELYDD: Pam wyt ti’n dweud hynny?
MEERA: Mae rhai pobl yn credu fod pawb sy’n chwarae rygbi yn galed. Efallai fy mod i braidd yn tyff pan dw i ar y cae, ond dw i angen bod yn tyff i chwarae’r gêm yn dda. Ond oddi ar y cae, pan dw i gyda ffrindiau a’r teulu dw i’n berson eithaf sensitif.
GETHIN: Dw i ddim eisiau i Meera feddwl fy mod i ddim yn ei licio hi, achos dw i’n meddwl ei bod hi’n lyfli ac yn ‘good laugh’.
MEG: Dw i’n licio Meera yn fawr. Mae hi’n ymddangos yn hyderus ac mae ganddi ddiddordeb yn beth sydd gen ti i ddweud.
JAC: Mae Meg yn rili ddiddorol - yr holl bethau mae hi’n dweud mae hi moyn gwneud yn y dyfodol gyda fferm ei mamgu hi, fel cynhyrchu bwyd mewn ffordd sy’n gynaliadwy, arallgyfeirio i agor caffi a siop ar y fferm. Ond mae hynny’n gwneud i fi deimlo ychydig bach yn bryderus. Mae hi’n gwybod yn iawn ei bod hi moyn ffermio. Mae’n gwneud i fi feddwl fy mod i braidd yn ansicr am fy hunaniaeth fy hun.
CYFWELYDD: Nid pawb sy’n sicr o’u hunaniaeth, cofia. A weithiau mae pobl yn newid eu meddyliau wrth fynd yn hŷn.
MEG: Dw i’n meddwl bod gweithio allan pwy ydyn ni, sef adnabod ein hunaniaeth fel petai, yn bwysig. Dyna sut rydyn ni’n dod i adnabod ein gilydd a gwneud ffrindiau, ynde? Holi pobl i ffeindio allan beth sydd gennych chi’n gyffredin, wel, dyna sydd wrth wraidd unrhyw berthynas. Os wyt ti’n medru ymddiried mewn person arall, yna’n aml mae hynny’n helpu cyfeillgarwch i ddatblygu. Fel pan wnes i glywed bod Jac yn gofalu am ei fam. Gwnes i sylweddoli wedyn fy mod i wedi ei gamddeall o’n llwyr. Unwaith gwnaeth o ddweud, roeddwn i’n teimlo fy mod i’n ei ddeall o, ac mae gen i gymaint o barch tuag ato fo. Mae o fel fy mod i’n gweld person gwahanol rŵan. Ddylai o ddim teimlo cywilydd amdano fo, na chadw’r peth yn gyfrinach chwaith.
JAC: Dw i’n mynd i grŵp gofalwyr ifanc, a mae gyda fi ffrindiau da yn fan ’na - dw i’n gallu eu trystio nhw. Mae cael pethau’n gyffredin mewn bywyd yn helpu gyda’r tryst yna a’r gefnogaeth rwyt ti angen.
MEERA: Alla’ i ddim credu fy mod i wedi cael hunaniaeth Gethin mor anghywir. Ond rydyn ni i gyd yn gwneud hynny bob dydd mewn ffordd.
CYFLWELYDD: Sut allwn ni osgoi hynny?
GETHIN: Dw i ddim yn ddrwg am wrando, ond mae pawb yn medru gwneud bach mwy o amser i wrando, dw i’n meddwl. Paid byth â barnu rhywun yn rhy gyflym. Mae angen rhoi amser i bobl gael dweud pwy ydyn nhw.
MEERA: Mae pobl wastad yn mynd i dy synnu di. Wastad. Ac mae hynny’n gyffrous, ac yn rhan o ddod i adnabod rhywun. Gwnes i dybio’n anghywir fod Gethin yn ‘straight’. Nawr, rydyn ni’n gallu chwerthin amdano fe. Ond dw i dal yn credu ei fod e’n gojys.
Mae cymeriadau'r gyfres hon, Meg, Gethin, Jac a Meera, wedi eu sgriptio'n seiliedig ar gyfweliadau a gynhaliwyd gyda phobl ifanc go iawn o Gymru. Yn y ffilm hon, maen nhw'n trafod eu hargraffiadau cyntaf o’i gilydd. Maen nhw’n cael eu herio ar eu canfyddiadau cychwynnol ac yn myfyrio ar sut gallen nhw eu hunain gael eu hystyried gan eraill.
Nodiadau athrawon
Cam Allweddol 4
Caiff pedwar person ifanc - Gethin, Jac, Meera a Meg - eu cyfweld ar eu hargraffiadau cyntaf o’i gilydd. Mae gan bob un ohonyn nhw argraffiadau cychwynol o’i gilydd, ac maen nhw’n myfyrio ar sut gallen nhw eu hunain gael eu hystyried gan eraill. Mae pob un yn euog o ragdybiaethau anghywir am ei gilydd, ac yn barod i gyfaddef hyn. Mae Meera’n cyfaddef ei bod hi'n ffansïo Gethin ac yn rhagdybio ei fod yn straight. Roedd Gethin wedi cymryd yn ganiataol fod Meg yn ystyried ei hun yn Saesnes am ei bod wedi cael ei magu yn Reading. Mae Meg yn meddwl bod Jac yn swil iawn gan nad yw’n siarad llawer am ei fywyd personol, a dywed Jac ei fod yn credu bod Meera’n ddiddorol iawn am ei fod yn meddwl ei bod hi’n dod o India. Mae’r bobl ifanc yn myfyrio ar sut mae'r rhagdybiaethau ffug yma yn gwneud iddyn nhw deimlo, ac yn cydnabod eu bod nhw wedi cael rhagdybiaethau ffug eu hunain. Maen nhw i gyd yn sylweddoli bod eu profiadau personol yn llywio'r hunaniaethau y maen nhw’n priodoli i’w gilydd, ac yn cydnabod pa mor bwysig yw dod i adnabod ei gilydd er mwyn deall cymhlethdodau hunaniaeth pob un.
Nodiadau cwricwlwm
- Gellid dangos lluniau o unigolion i’r myfyrwyr a gofyn iddyn nhw ddisgrifio’r math o berson maen nhw’n credu yw’r unigolyn yn y llun, gan gynnwys hobïau, diddordebau, cenedligrwydd ac ati. Yna, gellid rhannu a chymharu’r rhain a nodi’r gwahaniaethau. Gallai’r athro wedyn rannu disgrifiad go iawn o'r unigolion yn y lluniau gyda'r dosbarth. Gallai'r disgyblion gymharu eu syniadau nhw am yr unigolion â'r disgrifiadau go iawn a gweld a oedden nhw wedi bod yn ystrydebol ai peidio.
- Gellid gofyn i’r myfyrwyr sut y gallen nhw daclo ystrydebau a rhagdybiaethau ffug.
- Gellid gofyn i’r myfyrwyr rannu sut mae rhagdybiaethau ffug amdanyn nhw eu hunain yn gwneud iddyn nhw deimlo.
- Gall y myfyrwyr weithio gyda’i gilydd i greu ‘haenau’ ar gyfer unigolyn: beth mae pobl yn ei weld ar y tu allan, beth mae rhywun yn ei weld ar ôl dod i adnabod person ychydig yn well, a phwy yw'r person go iawn 'tu mewn'.
- Gall y myfyrwyr ysgrifennu sgript fer neu sgwrs rhwng dau berson i ddangos sut y byddant yn siarad a gwrando mewn ffordd sensitif er mwyn darganfod mwy am hunaniaeth rhywun.

Rhagor o'r gyfres hon:
Pwy ydw i? video
Mae pedwar o bobl ifanc o Gymru yn cyflwyno eu hunain a rhannau o’u hunaniaeth bersonol.

Newid hunaniaeth. video
Mae pedwar o bobl ifanc o Gymru yn trafod newid hunaniaeth a newid barn.

Chwyldroadau hanesyddol. video
Golwg ar ddigwyddiadau pwysig hanes modern yng Nghymru a’r byd drwy lygaid pobl ifanc.
