Pam bod mwy a mwy o ferched yn rhoi'r esgidiau rhedeg ymlaen a chamu allan o'r tŷ? Elin Fflur tries to understand why there's a huge increase in women running.
Elin Fflur sydd yn ceisio dod i ddeall pam bod yna gynnydd mawr mewn merched yn rhedeg.
Mae merched o bob oed, bob cefndir, a phob lefel ffitrwydd yn penderfynu rhoi'r esgidiau rhedeg ymlaen a chamu allan o'r tŷ, yn aml i'r tywyllwch neu'r glaw. Ai ffitrwydd yn unig yw’r rheswm dros hyn?
Mae Elin yn siarad efo grwpiau rhedeg Môn Girls Run, Mae Hi'n Rhedeg, Smiles and Miles, Genod Gelert ac Anwen Jones.