Newyddion
Mae alawon myfyriol yn cyferbynnu â themâu egnïol ac alawon tebyg i emynau sy’n frith o delynegiaeth esgynnol yn y symffoni Ramantaidd hon gan Charles Ives.
Dechreuwch eich Nadolig eleni gydag un o’r gweithiau corawl mwyaf adnabyddus a phoblogaidd yng ngherddoriaeth y Gorllewin, y Messiah gan Handel.
Carolau Nadolig mewn siwmperi clyd, plant yn canu’n llawen, darlleniadau gan eich hoff gyflwynwyr BBC Cymru Wales ac offerynnau taro a phres godidog. Beth arall allai fod ei angen arnoch i fynd i ysbryd y Nadolig?
Mae ein Dathliadau Nadolig hynod boblogaidd yn ôl!
Carolau Nadolig mewn siwmperi clyd, plant yn canu’n llawen ac offerynnau pres ac offerynnau taro dyrchafol. Beth arall allai fod ei angen arnoch i fynd i ysbryd y Nadolig?
Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC yn perfformio Nocturnes Debussy dan arweiniad Gergely Madaras.
Dechreuwch ar eich taith gerddorol y mis Ionawr hwn gyda The Cunning Little Vixen, y comedi drasig eithriadol o boblogaidd gan Janáček.
Bydd Gareth Malone yn arwain perfformiad unigryw o’r Meseia gan Handel yng Nghadeirlan fyd-enwog Llandaf yng Nghaerdydd.
Bydd y seren opera, Danielle de Niese, yn perfformio am y tro cyntaf gyda BBC NOW mewn perfformiad wedi’i lwyfannu’n rhannol fel Elle yn opera un-act bwerus Poulenc, La voix humaine.
Mae drama dywyll yn cyferbynnu â phenysgafndod llwyr yn Chweched Symffoni Shostakovich, gan ddangos amrywiad caleidosgopig ar ei fwyaf llachar.
Rydym yn parhau â’n cyfres Grace sy’n arddangos talent a menywod Cymru mewn cerddoriaeth y gwanwyn hwn gyda gweithiau gan Cecilia Darmström, Ninfea Cruttwell-Reade a Grace Williams, i gyd dan faton Emilia Hoving.
A hithau’n ben-blwydd Pierre Boulez yn 100 oed, mae’r arweinydd Daniel Cohen yn ymuno â BBC NOW am noson o berlau’r 20fed Ganrif, gan ddechrau gyda Livres pour cordes gan Boulez ei hun.
Yn 2025 bydd hi’n 50 mlynedd ers marwolaeth Shostakovich, felly i ddathlu ei fywyd, rydyn ni’n mynd â’i Nawfed Symffoni gyffrous i Aberystwyth a Bangor ym mis Mawrth.
Mae Trydedd Symffoni Rachmaninov yn un angerddol – mae uchafbwyntiau trawiadol yn ildio i unawdau dwys, gorymdeithiau grymus a dathlu taranllyd, i gyd yn seiliedig ar un motiff cerddorol wedi’i drawsnewid a’i ddatblygu’n fedrus drwyddi draw.
Dewch i ddarganfod y cyfansoddiad diweddaraf yng Nghymru y gwanwyn hwn wrth i gyfansoddwyr sy’n haeddu sylw ehangach gael cyfle i weithio gyda’r arweinydd Jac van Steen a’r Cyfansoddwr Cysylltiedig Gavin Higgins ar eu cyfansoddiad cerddorfaol diweddaraf.
Dewch i ddarganfod y cyfansoddiad diweddaraf yng Nghymru y gwanwyn hwn wrth i gyfansoddwyr sy’n haeddu sylw ehangach gael cyfle i weithio gyda’r arweinydd Jac van Steen a’i glywed yn dod yn fyw gyda BBC NOW.
Yn waith anferthol sy’n llawn grym ac angerdd aruthrol, mae symffoni olaf Brahms, a’i symffoni fwyaf mae’n debyg, sef ei bedwaredd, yn cyfleu harddwch, mawredd ac emosiwn aruthrol.
Yn cael ei ystyried gan Beethoven fel ei waith gorau, mae ei Missa Solemnis yn sicr yn ddarn ‘rhestr bwced’ i’w brofi ac i ryfeddu ato gan bawb sy’n hoff o gerddoriaeth.
Mae’r seren ar yr ewffoniwm David Childs yn camu i lwyfan yr unawdydd ar gyfer y perfformiad cyntaf yn y byd o’r concerto newydd gan Syr James MacMillan, Where the Lugar meets the Glaisnock.
Mae sibrydion prysur a chyffro bywiog yn arwain at uchafbwyntiau anferth yn agorawd boblogaidd Mozart i’r opera Le nozze di Figaro. Mae’n agoriad perffaith i unrhyw gyngerdd, ac mae’n llawn hwyl a llawenydd.
Am y tro cyntaf yng Nghaerdydd, cewch fwynhau perfformiadau teimladwy un o gerddorfeydd ifanc mwyaf cyffrous y byd. Bydd un ar bymtheg o gerddorion ifanc anabl a heb fod yn anabl yn perfformio cerddoriaeth glasurol
Mae hanes hir o gyfansoddwyr yn ysgrifennu anrhegion cerddorol i’r menywod roedden nhw’n eu caru, ac mae’r Cyngerdd i Gloi’r Tymor heno yn cynnwys dau o’r goreuon.
Os y bwriadwyd serenadau yn hanesyddol fel cerddoriaeth ar gyfer adloniant, yna mae Brahms yn sicr wedi rhagori yn ei Serenâd Rhif 2.
Ymunwch â ni yng Nghasnewydd ac yng Nghaerdydd yr haf hwn ar gyfer ein cyngherddau amser cinio arbennig, a gyflwynir gan Lesley Hatfield, arweinydd BBC NOW. Byddwn yn dechrau gyda Symffoni Rhif 64 gan Haydn, sef ei gampwaith Sturm und Drang.